Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Craig-y-Dorth, site of Battle, near Monmouth

Loading Map
NPRN402327
Cyfeirnod MapSO40NE
Cyfeirnod GridSO4832008950
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Fynwy
Hen SirSir Fynwy
CymunedMitchel Troy
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o ymchwilio i frwydr Craig-y-Dorth. Mae adroddiadau manwl ar yr ymchwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil hanesyddol a dogfennol (Border Archaeology), dau gyfnod o waith, un heb fod yn ymyrryd a'r safle a'r llall yn ymyrol (Archaeoleg Cymru).

Yr unig ffynhonnell i gyfeirio?n benodol at y frwydr yw Blwyddnodau Owain Glynd'r:

'Yn yr vn flwyddyn hono I bv y lladdfa ar Gymrv ar vynydd Kamstwn, a'r llall ar y Saesson ar Graic y Dorth rrwn Pen y clawdd a Thref Vynwy. Yno y llas y Saesson gan mwyaf oll ac I bv y dilyn arnynt hyd a mhorth y dref' (Livingston and Bollard, 175).

Cyfieithiad: 'Yn yr un flwyddyn honno bu lladdfa ar y Cymry ar Campston Hill ac un arall ar y Saeson ar Graig-y-dorth, rhwng Pen-y-Clawdd a thref Trefynwy. Yno, lladdwyd y rhan fwyaf o'r Saeson, ac erlidiwyd hwy hyd at gatiau'r dref' (Livingston a Bollard, 175).

Yn draddodiadol, ystyriwyd mai safle'r frwydr oedd Craig-y-Dorth, pentir yn ffurfio esgair ym mynyddoedd Trelech. Nodir `Safle Brwydr O.C. 1404? ar y cyntaf hyd at y pedwerydd argraffiad o fapiau'r Arolwg Ordnans yn SO 4832 0895. Cynhaliwyd gwaith maes diweddar yn yr ardal hon ond ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth y gellid ei gysylltu?n benodol a'r frwydr (Archaeoleg Cymru).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1404 Battle of Craig y Dorth: Battlefield Survey (2014).
Border Archaeology, Craig y Dorth (1404): Documentary and Historical Research Report (2009).
Livingston, Michael and Bollard, John K. (eds) Owain Glynd'r A Casebook (Liverpool University Press, 2013).
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP_309_03_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Craig y Dorth battlefield, produced in March 2014. Report no. 1210. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.