Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Grosmont;Y Grysmwnt: Battle of Grosmont, 1405

Loading Map
NPRN402333
Cyfeirnod MapSO42SW
Cyfeirnod GridSO4050024400
Awdurdod Unedol (Lleol)Sir Fynwy
Hen SirSir Fynwy
CymunedGrosmont
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I daflu goleuni ar ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o ymchwilio i frwydr Grosmont. Mae adroddiadau manwl ar yr ymchwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil hanesyddol a dogfennol (Border Archaeology), dau gyfnod o waith, un heb fod yn ymyrryd a'r safle a'r llall yn ymyrol (Archaeoleg Cymru).

Llythyr gan y Tywysog Harri at ei dad y Brenin Harri IV, dyddiedig 11 Mawrth 1405, yw'r unig dystiolaeth am y frwydr:

'Car Mescredy le xi. Jour de cest present moys de Mars voz rebelx des parties de Glomorgan, Morgannok, Uske, Netherwent, et Overwent feurent assemblez a la nombre de oyt mil gentz par leure aconte, demesne et senalerent le dit Mescredy par matyn et arderent part de vostre ville de Grosmont dedeinz vostre seigneurie de Monmouth. Et jenvoia tantost hors moun treschier cousin, le Sire de Talbot, et moun petit meigne de moun hostel et a eux assemblerunt voz foialx et vaillans chivalers William Neuport et Johan Greindre Lesqueux ne feurent qun trespetit pouoir en tous, mes i lest bien voirs que la victoire nest pas en la multitude de people, et ce feut bien monster illoeques: mes en la puissance de Dieu et illoques par laide de la benoite Trinitee voz gens avoient le champs et vainquerent tous les ditz rebelx et occirent de eux par loial aconte en le champs a leure revenue de la chace aucuns dient viiic et aucuns dient mil sur peine de lour vie' (Livingston and Bollard, 116 from London, British Library Cotton Cleopatra F.iii, f.59).

Cyfieithiad: 'Ar ddydd Mercher yr 11eg dydd o'r mis presennol hwn sef Mawrth ymgasglodd eich gwrthryfelwyr o rannau o Forgannwg, Brynbuga, Gwent Is Coed a Gwent Uwch Coed, wyth mil ohonynt yn ol eu hadroddiad eu hunain, ac aethant ar y dydd Mercher hwnnw a llosgi rhan o?ch tref a elwir Grosmont yn arglwyddiaeth Mynwy. Ac ar unwaith anfonais allan fy anwylaf gefnder, yr Arglwydd Talbot, a gosgordd fechan a chyda hwy ymgasglodd eich marchogion ffyddlon a dewr, William Newport a John Greyndour. Dim ond llu bychan oeddynt i gyd, ond gwir yw'r gair nad nifer dynion sy?n rhoi buddugoliaeth, a dangoswyd hyn yma: drwy rym Duw a chyda chymorth y Drindod sanctaidd, enillodd eich gw'r y dydd gan drechu'r holl wrthryfelwyr a?u lladd ar faes y frwydr, yn ol adroddiad dibynadwy, wrth ddychwelyd o?u herlid, dywed rhai 800 dywed eraill 1000, ar boen eu bywyd' (Livingston a Bollard, 117).

Ni phennwyd lleoliad maes y frwydr hyd yma. Mae wedi?i nodi ar fapiau modern yr Arolwg Ordnans mewn cysylltiad uniongyrchol a Chastell Grosmont (SO 4049 2440) ond mae?n aneglur beth yw'r dystiolaeth i gefnogi hyn, ac nid yw wedi?i nodi ar argraffiadau cynharach o fapiau'r Arolwg Ordnans.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1405 Battle of Grosmont: Battlefield Survey (2012).
Border Archaeology, Grosmont (1405): Documentary and Historical Research Report (2009).
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/vnd.ms-excelAWP_309_01_01 - Archaeology Wales Project ArchivesList of finds from Grosmont battlefield. Finds discovered during the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.
application/pdfAWP_309_01_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Grosmont battlefield, produced in March 2012. Report no. 1049. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.