DisgrifiadDaw'r cyfeiriad cynharaf y gwyddys amdano at y frwydr rhwng y Cymry a'r Sacsoniaid ar Afon Conwy o gofnod yn yr Harleian Chronicle am y flwyddyn 881:
'Gueit conguo? digal rotri adeo' (Gough-Cooper, a442.1).
Cyfieithiad: 'Brwydr Conwy; dial gan Dduw am Rhodri' (Dumville, 12).
Rhodri Mawr ap Merfyn Frych oedd brenin Gwynedd (Bartrum, 2009, 637), ac arweinydd lluoedd y Cymru mae?n fwyaf tebygol oedd ei fab Anarawd, a?i dilynodd fel brenin Gwynedd (Bartrum, 2009, 16). Mae'r cyfeiriad hwn am ddial am Rhodri, a laddwyd gan y Sacsoniaid yn 878, yn awgrymu y bu'r Cymry?n fuddugol yn erbyn y gelyn Sacsonaidd, a oedd bron yn sicr yn w'r Mersia. Nid yw'r Brutiau yn ychwanegu dim pellach, ond mae casgliad o Achau Cymreig o'r drydedd ganrif ar ddeg yn rhoi gwybodaeth ychwanegol:
'Tudwal the Lame son of Rhodri was wounded in the knee in the battle of Cymrid Conwy, when the sons of Rhodri fought Edryd Long-Hair, King of Lloegr, and from that wound he became lame. And for that reason his brothers gave him the chief churches of Gwynedd' (Bartrum, 1966, 101).
Cyfieithiad: 'Cafodd Tudwal, mab cloff Rhodri ei anafu yn ei ben-glin ym mrwydr Cymrid Conwy, lle y bu meibion Rhodri?n ymladd Edryd Hir-wallt, Brenin Lloegr, ac oherwydd yr anaf hwnnw y daeth yn gloff. Ac am y rheswm hwnnw y rhoddodd ei frodyr iddo brif eglwysi Gwynedd' (Bartrum, 1966, 101).
Mae Edryd Hir-wallt yn gyfeiriad at Aethelred o Fersia (Charles-Edwards, 490?1). Aeth Robert Vaughan o Hengwrt (m.1667), perchennog y llawysgrif achyddol a nodwyd uchod, ati i ymhelaethu ymhellach yn 1663:
'Anarawd was not idle, but gathered together all the strength he could make; His Army encamped neare the Towne of Conwey, at a place called Cymryt, where He and his Men making gallant resistance against the assaults of the Saxon power, at length after a bloody fight obtained a compleat Victory. This Battel was called Gwaeth Cymryt Conwey because it was fought in the Township of Cymryt hard by Conwey, but Anarawd called it Dial Rodri, because he had there revenged the death of his father Rodri. In this battle Tudwal the sonne of Rodri Mawr received a hurt in the knee, which made him be called: Tudwal gloff or the Lame ever after; his Brethren to reward his valour and service gave him Uchellogoed Gwynedd' (Prise, 49-50).
Cyfieithiad: 'Nid oedd Anarawd yn segur, ond casglodd ynghyd yr holl nerth a allai; roedd ei Fyddin wedi gwersylla ger Tref Conwy, mewn lle o'r enw Cymryt, ble y bu ef a?i W'r yn gwrthsefyll yn ddewr ymosodiadau'r grym Sacsonaidd, ac yn y diwedd, wedi brwydr waedlyd cawsant Fuddugoliaeth lwyr. Galwyd y Frwydr hon `Gwaeth Cymryt Conwey? am iddi gael ei hymladd yn Nhrefgordd Cymryt yn agos i afon Conwy, ond fe?i galwyd gan Anarawd yn Dial Rhodri, am ei fod wedi talu'r pwyth yn ol am farwolaeth ei dad Rhodri. Yn y frwydr hon, anafwyd Tudwal mab Rhodri Mawr yn ei ben-glin, a achosodd iddo gael ei alw?n: Tudwal gloff byth wedyn; fel gwobr am ei ddewrder a?i wasanaeth rhoddodd ei Frodyr Uchellogoed Gwynedd iddo' (Prise, 49-50).
Saif Cymryd (SH 7920 7586) ar lan orllewinol Afon Conwy, 1km i'r de o Gonwy, ac ymddengys y byddai lleoliad yn y cyffiniau hyn yn cyd-fynd a'r dystiolaeth sydd ar gael.
CBHC, Tachwedd 2016
Llyfryddiaeth
Bartrum, Peter C., A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (Aberystwyth, National Library of Wales, revised edition, 2009).
Bartrum, Peter C. (ed.), Early Welsh Genealogical Tracts (Cardiff, University of Wales Press, 1966).
Charles-Edwards, T. M., Wales and the Britons 350?1064 (Oxford University Press, 2013).
Dumville, David (ed. and trans.), Annales Cambriae, A.D. 682?954: Texts A?C in Parallel (Cambridge, Department of Anglo-Saxon, Norse and Celtic, 2002).
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Harleian Chronicle: Annales Cambriae, The A Text from British Library, Harley MS 3859, ff. 190r?193r, online edition.
Prise, John, A Description of Wales )Oxford, 1663).