Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Penddelw'r Arglwyddes Mary Cornelia Vane-Tempest, Ardalyddes Londonderry

Loading Map
NPRN707002
Cyfeirnod MapSH70SW
Cyfeirnod GridSH7454500498
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirSir Faldwyn
CymunedMachynlleth
Math O SafleCERFLUN
Cyfnod20fed Ganrif
Disgrifiad

Codwyd penddelw'r ddiweddar Mary Cornelia Vane-Tempest (1826–1906) ar ardal werdd ger Ysbyty Bach Londonderry (Ysgol Gynradd Vane gynt, NPRN 421018) a Thai Elusennau Vane (NPRN 21518) ym Mis Tachwedd 1909. Symudwyd y cerflun yn ddiweddarach i ardd y Plas, Machynlleth (gwelir NPRNs 29818 (tŷ) a 265185 (gardd)), ei chartref gynt, a ddaeth yn barc cyhoeddus ar ôl cael ei roi i bobl Machynlleth gan ei disgynnydd, Seithfed Ardalydd Londonderry, ym 1948. Y mae’r penddelw yn enghraifft brin o gerflun o Gymraes hanesyddol wedi ei henwi mewn man cyhoeddus yng Nghymru.

Cerfiwyd y penddelw gan yr Arglwyddes Feodora Gleichen (1861–1922) i bwyllgor o bobl y dref am £450. Y mae’n arddangos penddelw’r Ardalyddes mewn efydd ar bedestal gwenithfaen. Mae arfbais ar y pedestal, a’r arysgrifen:

MARY CORNELIA,

Fifth Marchioness of Londonderry,

1828–1906

This bust is placed by a grateful community and many friends, in whose hearts she is enshrined, to perpetuate the memory of one who by her wide sympathies, good life and good works, endeared herself to all in this ancient town.

Yr oedd Mary Cornelia yn ferch ac etifeddes i Syr John Edwards, Barwnig Cyntaf Garth, mab y cyfreithiwr John Edwards o Fachynlleth, trydydd mab Lewis Edwards o Dalgarth, Meirionnydd, anheddwr cyntaf Plas Machynlleth. Priododd â George Henry Robert Charles William Vane-Tempest, a adnabuwyd fel Henry, ym 1846, Is-iarll Seaham, a ddaeth yn Iarll Vane ym 1854 ac yn Bumed Ardalydd Londonderry ym 1872. Yr oedd teulu Vane-Tempest wedi’u cysylltu yn agos â bywydau cymdeithasol, diwylliannol, a gwleidyddol y dref a’r ardal o’i chwmpas, ac fe’u nodiwyd yn enwedig am eu helusengarwch. Cysylltwyd Mary Cornelia gyda’r sefydliadau y buodd yn agos at safle gyntaf ei cherflun — sefydlwyd yr ysgol ganddi a'i gŵr er mwyn dathlu genedigaeth eu mab, a chafodd ei chefnogi ganddynt; yr Ysbyty oedd y cyntaf yn y dref a chafodd ei ariannu gan y Vane-Tempests hefyd a darparwyd y tai elusen gan Mary Cornelia ar gyfer gweddwon a thlodion i fyw ynddynt heb orfod talu.

A.N. Coward, CBHC, 22.04.2022