Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

CARDIFF

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2020. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 301223

Cyfeirnod Map ST17NE

Cyfeirnod Grid ST1817076360

Awdurdod Lleol Caerdydd

Hen Sir Morgannwg

Cymuned Castle (Cardiff)

Math o Safle DINAS

Dosbarth Cyffredinol SIFIL

Cyfnod Amlgyfnod

Disgrifiad o´r Safle Er bod tystiolaeth helaeth o bresenoldeb pobl yn y rhanbarth yn y cyfnod cynhanesyddol, gellir olrhain gwreiddiau prifddinas Cymru'n ôl i sefydlu caer Rufeinig yno tua 55OC. Deffnyddiwyd hon tan ddiwedd y bedwaredd ganrif. Yn y cyfnod canoloesol cynnar, ffurfiodd Meurig ap Tewdrig deyrnas fechan Glywysing, a oroesoedd tan y goresgyniad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg. Comisiynodd William I, Brenin Lloegr, adeiladu castell ar safle'r hen gaer Rufeinig ac yn fuan datblygodd tref farchnad fechan, gaerog, o'i gwmpas. Er gwaethaf cael ei llosgi gan Owain Glyndŵr yn 1404, ffynnodd masnach forwrol y dref, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg ymestynnai'r fasnach honno i Ffrainc ac Ynysoedd y Sianel, yn ogystal ag i borthladdoedd eraill o amgylch Prydain. Er i Gaerdydd ddod yn dref sirol Morgannwg yn 1536 a gweld gwelliannau sylweddol yn y ddeunawfed ganrif, yn cynnwys helaethu ac ailadeiladu Castell Caerdydd gan Ardalydd 1af Bute, eto araf fu twf y dref ei hun.

Dechreuodd twf a datblygiad ar raddfa fawr yn negawd olaf y ddeunawfed ganrif. Agorwyd camlesi i gysylltu'r porthladd â'r ardaloedd cloddio glo i'r gogledd, a dyna ddechrau trawsnewid Caerdydd i fod y ddinas allforio glo fwyaf yn y byd. Yn y 1830 adeiladodd yr 2il Ardalydd Bute ('Crewr Caerdydd Fodern') ddociau ym Mae Caerdydd, lle roedd adeiladau amlwg yn cynnwys y Gyfnewidfa Glo a Llongau ac Adeilad y Pierhead. Cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn o ganlyniad i'r datblygiadau hyn gan ymestyn ffiniau'r dref a'i datblygiad economaidd a diwydiannol. Daeth mewnfudwyr o lawer gwlad i'r dref, ac roedd hynny'n amlwg iawn yng nghymeriad amlddiwylliannol yr ardaloedd o amgylch y dociau, gyda Tiger Bay yr enwocaf yn eu plith. Erbyn cyfrifiad 1881, Caerdydd oedd y dref fwyaf yng Nghymru; rhoddwyd statws dinas iddi yn 1905, ac yn fuan agorwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yno, a phencadlysoedd Prifysgol Cymru a'r Eglwys Babyddol yng Nghymru. Fe'i gwnaed yn brifddinas Cymru yn 1955 ac, yn dilyn sefydlu llywodraeth ddatganoledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1997, mae'n gartref i'r Senedd. Yno hefyd ceir Canolfan y Mileniwm, cartref tîm rygbi cenedlaethol Cymru.

Fel arwydd o'i henw da a'i phwysigrwydd cynyddol yn adfywiad yr ieithoedd a'r diwylliannau Celtaidd ar hyd arfordir gorllewinol Yr Iwerydd, daeth dirprwyaeth gref o ysgrifenwyr, casglwry llên gwerin, newyddiadurwyr a chyfieithwyr o Lydaw i'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1899. Aeth y Llydawyr â newyddion gartref am eu profiadau. Roeddent un ac oll yn hael eu canmoliaeth i fywiogrwydd y diwylliant Cymreig, a hefyd i ysblander y ddinas.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein