Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

DENBIGH

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2020. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 33082

Cyfeirnod Map SJ06NE

Cyfeirnod Grid SJ0526066110

Awdurdod Lleol Sir Ddinbych 

Hen Sir Dinbych

Cymuned Denbigh

Math o Safle TREF

Dosbarth Cyffredinol SIFIL

Cyfnod Cyffredinol

Disgrifiad o´r Safle Tref farchnad fechan yn Sir Ddinbych yw Dinbych. Mae ei gwreiddiau'n mynd yn ôl i'r ddeuddegfed ganrif, gan fod cyfeiriad ati mewn cerdd a gyfansoddwyd yn 1160, er mai yn 1211 y lluniwyd y siarter cyntaf sydd ar gael. Dengys tystiolaeth ddogfennol bod gan y tywysogion Cymreig gastell yng nghymdogaeth y dref bresennol, er nad yw'n hysbys ble roedd. Sefydlwyd y castell presennol gan Henry de Lacy, Arglwydd Dinbych, yn 1282 ar ôl iddo dderbyn y tir gan Edward I.

Derbyniodd ei Siarter Tref cyntaf yn 1285 ac mae hwn, ynghyd â siarteri dilynol, yn nodi bod y dref wedi'i rhannu'n fwrdeistref 'Seisnig' gaerog ar ben y bryn, a thref 'Gymreig' 'tu allan i'r muriau'. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar ddeg, cynyddodd y dref tu allan i'r muriau, gan fynd yn fwy na'r fwrdeistref a ddirywiodd mewn pwysigrwydd yn y pen draw. Yn ystod yr amser hwn sefydlwyd mynachlog gyntaf - ac olaf - y Carmeliaid yng Nghymru, ynghyd ag eglwys fawr y Santes Marcella gyda'i chorff dwbl.

Difrodwyd y dref gan filwyr Owain Glyndŵr yn 1400 ond fe wnaethant fethu â chipio'r castell. Cynyddwyd statws y dref pan gafodd ei gwneud yn un o bedair prif ganolfan weinyddol Cymru yn dilyn y Ddeddf Uno â Lloegr 1536. Atgyfnerthwyd hyn yn 1563 pan wnaed Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a chyfaill mynwesol Elizabeth I, yn Farwn Dinbych ganddi. Aeth ati i drawsnewid y dref gyda rhaglen uchelgeisiol o godi adeiladau cyhoeddus, yn cynnwys Neuadd y Sir ac Eglwys Dewi Sant - yr eglwys Brotestannaidd fawr gyntaf i'w hadeiladu ym Mhrydain ers y Diwygiad Protestannaidd.

Bu cyffro drachefn yn Ninbych yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a Rhyfel Cartref Lloegr, pryd yr ochrodd y dref gyda'r Brenhinwyr. Ar ôl iddynt ildio i Oliver Cromwell yn 1646, gadawyd y castell a dechreuodd ddadfeilio. Roedd y ddeunawfed a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyfnod o ffyniant economaidd mawr i'r dref, ac mae ei phensaerniaeth Sioraidd a Fictoraidd yn adlewyrchu hynny.

Gan ei fod ar y briffordd yn cysylltu Llangollen a Llanelwy, denodd adfeilion Castell Dinbych lawer o ymwelwyr yn arbennig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er ei bod yn ymddangos i'r cyfarfod cystadleuol cenedlaethol i delynorion Cymreig a gynhelid o fewn adfeilion y castell bob tair blynedd wneud argraff ar y Tywysog Hermann von Pückler-Muskau, roedd Franz von Löher yn falch o gael osgoi'r digwyddiad gan y credai nad oedd gan y Cymry fawr ddim doniau cerddorol. Fe wnaeth, fodd bynnag, roi tipyn o ganmoliaeth i ansawdd gwych y cinio a gafodd yn y dafarn lle'r arhosai yn nhref Dinbych.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Safleoedd Cysylltiedig

Adnoddau Ar-lein