Hygyrchedd

Font Size cy

100% 150% 200%

background colour cy

cy Cyferbynnedd
Cau Ailosod

SWANSEA

Manylion y Safle

© Copyright and database right 2019. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206

NPRN 33145

Cyfeirnod Map SS69SE

Cyfeirnod Grid SS6564293048

Awdurdod Lleol Abertawe 

Hen Sir Morgannwg

Cymuned Castle (Swansea)

Math o Safle DINAS

Dosbarth Cyffredinol SIFIL

Cyfnod Amlgyfnod

Disgrifiad o´r Safle Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, ac mae ar arfordir y de. Yn niwedd y ddegfed ganrif roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Gymreig Deheubarth, ond credir i Abertawe gael ei sefydlu yn 1013 fel treflan Lychlynaidd gan y brenin Danaidd Sweyn Fforch-farf a oedd wedi arwain sawl ymgyrch ysbeilio yn yr ardal Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, ymgorfforwyd Abertawe o fewn arglwyddiaeth y mers Gwyr, ac adeiladwyd y castell cyntaf yno yn 1106.

Yn wreiddiol roedd yn borthladd a allforiai wlân, crwyn a brethyn, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg roedd glo a charreg galch hefyd yn cael eu cludo oddi yno. Oherwydd ei lleoliad ffafriol ar yr arfordir a'i chysylltiadau masnachol â threfi a dinasoedd eraill, dechreuodd diwydiant ffynnu yn Abertawe yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif. Daeth mwyndoddi a phrosesu copr yn ddiwydiannau canolog yn Abertawe a rhoi iddi'r llysenw 'Copperopolis'. Gweithfeydd copr yr Hafod, a sefydlwyd yn 1810, oedd y rhai mwyaf yn y byd, ond roedd diwydiannau metelegol eraill a chloddio glo yn fynnu hefyd. Tyfodd y dref yn hynod gyflym i ddarparu tai, ysgolion a lleoedd o addoliad i'r gweithwyr diwydiannol a'u teuluoedd. Ymhlith y rhain roedd Capel y Tabernacl, a elwid yn 'Eglwys Gadeiriol Anghydffurfiaeth Gymraeg', a Chastell Morris, un o'r blociau preswyl aml-lawr cyntaf yn Ewrop. O ganlyniad i hyn, dim ond yn 1881 y daeth Caerdydd yn fwy poblog nag Abertawe.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif, wrth i drefi glan môr ddatblygu o amgylch arfordir Cymru, ceisiodd Abertawe hefyd am gyfnod ddilyn y ffasiwn. Fodd bynnag, oherwydd bod y diwydiannau trymion yn cael effaith niweidiol ar ansawdd yr amgylchedd, symudodd y mannau ymdrochi'n fuan i'r dwyrain i'r Mwmbwls gerllaw. Er gwaethaf hyn, roedd twristiaid yn dal i gael eu denu gan gyfaredd y peiriannau mawr a'r ffwrneisiau tanllyd. Roedd ymwelwyr niferus o Ewrop yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o longau rhyngwladol yn harbwr Abertawe, neu'n llygadrythu'n forbid ar drueni plant carpiog y strydoedd cefn a'r gweithwyr tlodaidd. Fel rhan o'i hymdrechion i ddod â chysur i weithwyr diwydiannol Abertawe, roedd y seren opera ryngwladol, Adelina Patti, yn rhoi cyngherddau blynyddol yn yr hen Prince Albert Hall yn y dref. Wedi'i geni yn Sbaen i rieni Eidalaidd, roedd Patti wedi ymgartrefu ar ystâd Craig-y-Nos gerllaw.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.

Delweddau Digidol

Chofnodion Archifol

Adnoddau Ar-lein