TINTERN ABBEY
Manylion y Safle
© Copyright and database right 2021. All rights reserved. Ordnance Survey licence number 0100022206
NPRN 359
Cyfeirnod Map ST59NW
Cyfeirnod Grid ST53319999
Awdurdod Lleol Sir Fynwy
Hen Sir Mynwy
Cymuned Tintern
Math o Safle ABATY
Cyfnod Canoloesol
Disgrifiad o´r Safle Abaty Tyndyrn oedd y fynachlog Sistersaidd gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 1131 gan Walter fitzRichard o Clare a'i phreswylwyr cyntaf oedd grŵp o fynaich a ddaeth yno o'r fam-fynachlog l'Aumone yn Ffrainc. Gyda thwf y gymuned, helaethwyd yr adeiladau mynachaidd ac, yn 1269, dechreuwyd adeiladu'r eglwys Gothig y gellir gweld ei hadfeilion heddiw.
Rhannwyd y tir o amgylch y fynachlog yn faenorau a oedd yn cael eu ffermio gan frodyr lleyg. Ar ôl i'r Pla Du ysgubo drwy'r wlad yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, gan anrheithio'r mynaich a'r boblogaeth leol fel ei gilydd, bu'n rhaid gosod y tir i denantiaid. Yn ystod Gwrthryfel Glyndŵr, 1400-15, dinistriwyd llawer o eiddo'r abaty gan y gwrthryfelwyr, a chyfrannodd hynny at drafferthion ariannol parhaus y fynachlog. Ildiodd yr Abad Wyche yr eglwys a'r abaty yn dilyn y Ddeddf Ataliad Gyntaf yn 1536 pan fynnodd y brenin Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd. Tynnwyd y plwm gwerthfawr oddi ar doeau'r adeiladau gan achosi iddynt ddadfeilio'n gyflym wedyn. Dros y ddwy ganrif nesaf roedd y safle'n gartref i fythynnod a gweithdai trigolion lleol tlawd a gweithwyr o'r gwaith cynhyrchu gwifrau cyfagos.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd wedi dod yn ffasiynol i ymweld â dyffrynnoedd a mynydd-dir Cymru a chael golwg ar adfeilion canoloesol y wlad. Fe wnaeth Dug Beaufort, perchen Tyndyrn ar y pryd, glirio'r tir o amgylch y fynachlog i'w gwneud yn fwy hygyrch i dwristiaid, ond gadawodd y eiddew trwchus a orchuddiai'r eglwys heb ei gyffwrdd. Yn fuan fe wnaeth barddoniaeth ramantaidd a thirluniau droi Abaty Tyndyrn yn enghraifft berffaith o adfeilion canoloesol mewn tirwedd hardd.
Prynwyd yr adfeilion gan y Goron yn 1901 gan eu bod erbyn hynny'n cael eu hystyried yn heneb o bwysigrwydd cenedlaethol a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb dros y safle i'r Weinyddiaeth Waith yn 1967. Erbyn hyn mae Abaty Tyndyrn yn adeilad rhestredig Gradd I ac yn heneb gofrestredig sydd dan ofal Cadw.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
