Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Irfon Bridge;Pont Irfon;Battle of Orewin Bridge, Builth Wells

Loading Map
NPRN403411
Cyfeirnod MapSO05SW
Cyfeirnod GridSO0300051500
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirBrecknockshire
CymunedCilmery
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Pont Irfon ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg fanwl ar y digwyddiad (Chapman).

Yr oedd brwydr Pont Irfon rhwng lluoedd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd a lluoedd Iorwerth I ger Llanfair ym Muallt yn ysgarmes dyngedfennol o ran cyfeiriad hanes Cymru yn yr oesoedd canol. Mae?n bwysig oherwydd ar derfyn y frwydr yr oedd Llywelyn yn farw a chydag ef y posibilrwydd, ar y dyddiad hwnnw, o gael Cymru annibynnol. O'r herwydd ymddengys y digwyddiad yn bron pob un o'r croniclau Cymraeg a Lladin o'r cyfnod yn ogystal ac mewn gohebiaeth rhwng y brenin, swyddogion brenhinol a gwyr yr eglwys. Mae'r adroddiadau hyn yn anghytuno a?i gilydd, fodd bynnag, ac nid oes unrhyw naratif clir am y digwyddiad.

Ym mis Tachwedd In November 1282, yn dilyn llwyddiannau milwrol Iorwerth I yng Ngogledd Cymru, mewn ymgais i newid cyfeiriad arweiniodd Llywelyn ei fyddin o Eryri ac i'r Mers canolog ac yna i Lanfair ym Muallt. Mae fersiwn Peniarth MS.20 o Brut y Tywysogyon yn nodi:

'Ac efo ago refgynaud hyt en llangaenten ac odena ef a anvonef y wyr ay diftein y gymmryd gwsogaeth gwyr bsecheinyauc ac a daw y tywiffauc a bychy dic o wyr gyd ac ef. ac e na y doeth Roffer mosty myr a Grufud ap gwen nwynwyn a llu er bsehyn gantwynt en direbud am ev penn ac ena y llas llywelyn ay osevgwyr. dyw damafius bap pethew nos os vn dyd kyn dyw Nadolic a dyw gwener oed y dyd hvnnw' (Jones, 228).

Cyfieithiad: 'Ac enillodd feddiant cyn belled a Llanganten. Ac ar hynny anfonodd ei wyr a?i stiward i dderbyn gwrogaeth gwyr Brycheiniog, a gadawyd y tywysog gyda dim ond ychydig iawn o wyr gydag ef. Ac yna daeth Roger Mortimer a Guffudd ap Gwenwynwyn, a byddin y brenin gyda hwy, ar eu traws yn ddirybudd; ac yna lladdwyd Llywelyn a?i wyr blaenllaw ar ddydd Damasus y Pab, a bythefnos union cyn dydd Nadolig; a dydd Gwener oedd y diwrnod hwnnw' [11 Rhagfyr] (Jones, 120-121).

Mae lleoliad cyffredinol y frwydr, rywle yng nghyffiniau arglwyddiaeth Llanfair ym Muallt, yn cael ei dderbyn fel lleoliad cywir yn gyffredinol. Dim ond Walter of Guisborough sy?n rhoi lleoliad penodol er y dylid bod yn weddol ofalus ynghylch ei adroddiad, oherwydd y tebygrwydd a thriniaeth yr un awdur o frwydr Stirling Bridge yn 1297:

Cyfieithiad: '?dangosodd Cymro ryd i'r Saeson, yr oedd rhai ohonynt wedi ei defnyddio i groesi'r Irfon gan fynd ymlaen i sicrhau pont Orewin o'r tu ol. Yna croesodd byddin gyfan [y Saeson], gan ddringo i'r uchelderau tu hwnt. Daliodd y Cymru eu tir yn ddewr, wedi eu dal yn ddirybudd a heb unrhyw orchmynion yn absenoldeb eu tywysog, gan saethu i lawr ar y Saeson, ond cawsant eu hysgwyd gan y saethwyr a oedd yn gymysg a'r marchfilwyr, ac yna ymosodwyd arnynt o'r cefn gan rai o'r gwyr meirch a aeth o gwmpas ac yn uwch i fyny'r llethr y tu ol iddynt, aethant ar ffo' (Smith).

Mae cofeb yng Ngilmeri A SO 00090 51407 (NPRN 32562), yn nodi?n draddodiadol y fan lle lladdwyd Llywelyn, fel y nodir ar fapiau hanesyddol yr Arolwg Ordnans. Mae'r rhan fwyaf o dystiolaeth yn awgrymu y digwyddodd hyn i ffwrdd o'r brif frwydr, ond nid yw?n ddigon manwl o bell ffordd i gynnal na gwrthddweud y safle hwn.

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Chapman, A., Irfon Bridge 11 December 1282: Documentary and Historical Research Report (2013).
Jones, Thomas (gol.), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd, Gwasg Prifysgol, Cymru, 1941).
Jones, Thomas (trans.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes Peniarth MS. 20 Version (Cardiff, University of Wales Press, 1952).
Smith, Ll. Beverley, `The Death of Llywelyn ap Gruffudd. The Narratives Reconsidered?, Welsh History Review/Cylchgrawn Hanes Cymru, (1982-3), 200-14.