Saif y dref farchnad hon, a fu ar un adeg yn dref sirol Sir Frycheiniog, lle mae'r afon Honddu yn llifo i'w Wysg. Sefydlodd y Rhufeiniaid ganolfan i ?yr meirch yma wrth iddynt ymwthio ymhellach i'r hyn sydd bellach yn Gymru. Adeiladwyd castell gan y Normaniaid yma yn yr unfed ganrif ar ddeg, drachefn oherwydd lleoliad strategol pwysig y dref ar un o'r ychydig rydau dros yr afon. Codwyd cylch o furiau o amgylch y dref yn y drydedd ganrif ar ddeg. Ychydig iawn o'r rhain sydd i'w gweld bellach gan iddynt gael eu dinistrio yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Mae gwreiddiau Eglwys Gadeiriol Aberhonddu'n mynd yn ol i'r unfed ganrif ar ddeg fel eglwys wedi'i chysegru i Sant Ioan. Dyma'r eglwys gadeiriol fwyaf diweddar yng Nghymru. Daeth yn sedd Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 1923 yn dilyn datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru dair blynedd yn gynharach.
Oherwydd ei lleoliad ffafiol i'r gogledd o Fannau Brycheiniog mae Aberhonddu wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers cryn amser. Gyda'r gwelliant graddol ym mhriffyrdd Cymru yn niwedd y ddeunawfed a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn fan aros canolog hefyd i goetsys y post. O ganlyniad i'r datblygiad hwn, ymwelodd llawer o dwristiaid a'r dref. Yn 1844, arhosodd Carl Carus a Friedrich August II, Brenin Sacsoni, yma am gyfnod byr i newid ceffylau a mwynhau prysurdeb y farchnad a harddwch y wlad gyfagos tra ar eu daith ddiwrnod o Ferthyr Tydfil i Aberystwyth.
Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of visit to Brecon by Carl Gottlob K?ttner from 'Beytr?ge zur Kenntniss vorz?glich des Innern von England und seiner Einwohner' (1783). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through European Travellers to Wales project.
application/pdfHAP - Headland Archaeology Projects ArchiveHeadland Archaeology Report No CPBP18 "Land at Cae Prior, Brecon, Powys. Archaeological Evaluation", March 2019. Commissioned by The Environmental Dimension Partnership on behalf of Mr Ray Fellowes.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1506 "Land adjacent to Cerrigochion Rpad, Brecon. Geophysical Survey" produced by Philip Poucher, September 2016.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1393 "Cerrigochion Rpad, Brecon. ASIDOHL" produced by Philip Poucher, September 2015.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1543 "Land adjacent to Cerrigochion Rpad, Brecon. Archaeological Evaluation" produced by Philip Poucher and Andrew Shobbrook, January 2017.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesPhotos from Archaeology Wales report no 1393 "Cerrigochion Rpad, Brecon. ASIDOHL" produced by Philip Poucher, September 2015.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1445 "Cerrigochion Rpad, Brecon. Cultural Heritage Impact Assessment" produced by Philip Poucher, February 2016.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1429 entitled "Morgannwg Nursing Home, Brecon, Powys. Archaeological Evaluation" prepared for Challinor Hall Associates by Chris Smith and Kate Pitt, January 2016.