Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Llanberis

Loading Map
NPRN33016
Cyfeirnod MapSH56SE
Cyfeirnod GridSH5783060070
Awdurdod Unedol (Lleol)Gwynedd
Hen SirSir Gaernarfon
CymunedLlanberis
Math O SafleTREF
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Saif Llanberis mewn dyffryn hir a chul gyda dau lyn mawr ychydig i'r gogledd orllewin o'r Wyddfa. Y dystiolaeth gynharaf o anheddiad yno yw bryngaer Dinas Ty Du sy'n dyddio o'r Oes Haearn. Cafwyd hyd i rai gweddillion Rhufeinig sy'n gysylltiedig mae'n fwy na thebyg a Segontium, caer fawr ar gyrion tref bresennol Caernarfon. Yn y chweched ganrif adeiladodd Sant Peris encilfa grefyddol ym mhen deheuol Llyn Peris a sefydlodd Sant Padarn ei eglwys ar lan Llyn Padarn.

Tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yr ardal yn denau ei phoblogaeth gydag amaethyddiaeth yn brif ddiwydiant. Ddiwedd y ddeunawfed ganrif dechreuwyd cloddio am lechi ar raddfa fechan ar hyd llethrau gogledd-ddwyrain y dyffryn. Datblygodd y diwydiant hwn yn syfrdanol gydag agor Chwarel Vivian yn y 1870au gyda phowdr du'n cael ei ddefnyddio i chwythu'r graig a nifer o dramffyrdd yn cael eu gosod i gludo'r llechi'n fwy effeithiol o'r chwareli i'r porthladdoedd cyfagos. Cyfrannodd y diwydiant llechi yn fawr at dwf y boblogaeth o oddeutu 700 yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg i dros 3000 erbyn ei diwedd.

Er gwaethaf cynnydd y diwydiant llechi yn y dyffryn, daeth nifer gynyddol o dwristiaid i Lanberis o'r cyfnod Rhamantaidd ymlaen. Roedd Gwesty'r Royal Victoria yn hysbysebu bod ceffylau a thywysyddion ar gael i fynd ag ymwelwyr i gopa'r Wyddfa gerllaw, a'r gwesty hefyd oedd a'r allweddi i'r tir y saif Castell Dolbadarn arno. Roedd Julius Rodenberg o'r Almaen, newyddiadurwr ac awdur llyfrau teithio, wrth ei fodd gyda safle hardd y gwesty a'i thelynor yn chwarae yn y cyntedd bob gyda'r nos. Cafodd ysbrydoliaeth arbennig un noson, gan gyfansoddi geiriau newydd ar yr alaw werin Gymreig 'Ar hyd y nos'. Erbyn hyn twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yn Llanberis. Mae'n ganolfan ar gyfer cerdded, dringo a beicio mynydd, yn ogystal a deifio yn nhyllau'r chwareli llechi sy'n llawn d'r bellach.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of a visit to Llanberis by Johann Georg Kohl from 'Reisen in England und Wales' (c. 1842). Text available in Welsh, English, French and German. Produced through the European Travellers to Wales project.