Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Parys Mountain Copper Mines, Amlwch

Loading Map
NPRN33752
Cyfeirnod MapSH49SW
Cyfeirnod GridSH4409590384
Awdurdod Unedol (Lleol)Ynys Môn
Hen SirAnglesey
CymunedAmlwch
Math O SafleMWYNGLAWDD COPR
CyfnodAmlgyfnod
Disgrifiad
Mae cerdded ar Fynydd Parys fel cerdded ar wyneb y lleuad, gyda'r cerrig amryliw a geir yno yn tystio i bwysigrwydd mwyngloddiau copr Ynys Mon ar un cyfnod. Er bod tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod copr yn cael ei gloddio o Fynydd Parys mor gynnar a'r Oes Efydd, dechreuodd cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol yn 1768 pan ddarganfuwyd gwythien arbennig o gyfoethog. Datblygwyd y gwaith gan Thomas Williams, 'Brenin Copr' cyntaf y wlad, ac erbyn y 1780au roedd Mwyngloddiau Copr Mynydd Parys, a oedd yn eiddo i Nicholas Bayley, AS dros Ynys Mon, y rhai mwyaf yn y byd. Allforiwyd y mwynau copr o borthladd Amlwch gerllaw i Abertawe, a oedd bryd hynny'n ganolfan fyd-eang mwyndoddi copr. Defnyddid y metel yn arbennig i orchuddio gwaelod llongau pren y llynges yng nghyfnod Nelson.

Daeth llawer o ymwelwyr tramor i weld mwyngloddiau copr enwog Mynydd Parys. Roedd rhai ohonynt yn astudio'r diwydiant yma a'r dulliau mwyndoddi rhagarweiniol, yn ogystal a rhyfeddu at y pyllau mwyngloddio enfawr a'r tomennydd o gerrig gwastraff llachar eu lliwiau. Yn 1796 bu'r barwn ifanc o Awstria, Gottfried Wenzel von Purgstall, ar daith ar hyd a lled Cymru ac arhosodd yma am ychydig. Er ei fod yn ei ddisgrifio ei hun fel lleygwr nad oedd yn deall llawer ar agweddau technegol mwyndoddi, mae ei ddisgrifiad serch hynny'n rhoi argraff dda o'r mwyngloddiau yn anterth y cyfnod cynhyrchu. Tua'r un cyfnod, treuliodd August Gottfried Lentin ychydig wythnosau yng Ngogledd Cymru gyda'r bwriad o astudio mwyngloddio brig ar Fynydd Parys mewn mwy o fanylder. Mae'r gyfres o lythyrau a ysgrifennodd ymysg y disgrifiadau cyfoes gorau o fwyngloddio copr, ei ddiwydiannau cysylltiedig, a'r effaith amgylcheddol a chymdeithasol ar y bobl ac ar ynys Mon.

Er i'r diwydiant edwino'n gyflym yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae effaith mwyngloddio copr ar Fynydd Parys yn dal yn amlwg heddiw gyda'r tirwedd agored o gerrig amryliw a gweddillion adeiladau diwydiannol wedi'u gwasgaru ar hyd y lle. Er bod llawer o lygredd yn y pridd a'r d'r o hyd, mae rhai planhigion prin yn dal i dyfu ar y safle. Erbyn hyn mae tywyswyr lleol yn cynnig teithiau drwy'r ceudyllau a'r lefelau mwyngloddio hanesyddol.

Cofnod wedi ei ddiweddaru fel rhan o'r prosiect 'Taith i'r Gorffennol: Cymru mewn teithlyfrau o Ffrainc a'r Almaen' a gyllidir gan yr AHRC.
R. Singer (Prifysgol Bangor) a S. Fielding (CBHC), 2017.
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/vnd.ms-excelAWP - Archaeology Wales Project ArchivesProject archive metadata form relating to archaeological work at Tank Farm, Rhosgoch carried out by Archaeology Wales, 2017.
application/pdfAWP - Archaeology Wales Project ArchivesArchaeology Wales report no 1516 "Tank Farm, Rhosgoch. Baseline Assessment: Cultural Heritage" produced by Adrian Hadley, August 2016.
application/pdfSimon J.S. Hughes ArticlesDigital copy of an article entitled "The Rebirth of an Industry- Copper from Parys", concerning Parys Copper Mine, Anglesey, by Simon S.J. Hughes, of the Welsh Mines Preservation Trust, first published in Planet 79, March 1990.
application/mswordETW - European Travellers to Wales ProjectArchive coversheet relating to Parys Mountain Gigapan Project carried out by Scott Lloyd and Rita Singer, September 2017. Produced through European Travellers to Wales project.
application/pdfRCAHMW ExhibitionsDigital copy of exhibition panel entitled Cysylltiadau Metel: Y Deyrnas Gopr; Metal Links: The Copper Kongdom, produced by RCAHMW, 2013.
application/pdfETW - European Travellers to Wales ProjectDescription of visit to Parys Mountain by August Gottfried Ludwig Lentin from 'Briefe ?ber die Insel Anglesea, vorz?glich ?ber das dasige Kupfer-Bergwerk & die dazugeh?rigen Schmelzwerke & Fabriken'(c. 1970s).Produced through European Travellers to Wales.