DisgrifiadI oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru , comisiynwyd ymchwil ddogfennol a hanesyddol ar frwydr Coleshill ac mae'r adroddiad ymchwil a gafwyd o ganlyniad yn rhoi golwg manwl ar y frwydr (Border Archaeology).
Brwydr Coleshill oedd yr un frwydr fawr a ymladdwyd yn ystod ymgyrch Harri II yng Ngogledd Cymru. Nod yr ymgyrch oedd atal cynnydd Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd, yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Ceir disgrifiad hirfaith o'r frwydr yn y Breviate Chronicle:
'henricus Rex anglie norwalliam dicioni sue uolens excercitum ad campestria cestrie duxit ibique tentoria fixit ? owinus princeps Norwallie cum filiis suis ? hoelo ? canano et dauid cum ingenti excercitu apud d{in}as bassing castra metati sunt ibique uallum erexerunt ? hoc audito rex astuta fretus industria ad uallum owini uia littorea tetendit sed antequam peruenisset a conano et dauid hoc idem precauentibus acerimo certamine susceptus est multisque suorum a{missi}s quo tend{e}bat euasit ? owin{us} audiens regem sibi a tergo imminere in facieautem excercitum regis nimium uallum deseruit et in loco tuciori se receipt' (Gough-Cooper, b1180.1-.2).
Cyfieithiad: 'Daeth y Brenin Harri o Loegr, i ymestyn ei fwriadau i Ogledd Cymru, gan arwain byddin i faes agored Caer ac yno gosododd ei bebyll. Sefydlodd y Tywysog Owain o Ogledd Cymru a?i feibion Hywel, Cynan a Dafydd, wersyll milwrol yn Ninas Basing gyda byddin fawr ac adeiladodd amglawdd enfawr yno. Clywais hyn yn aml, i'r brenin weithredu?n gyfrwys a chyda dyfalbarhad, gan barhau ar hyd ffordd glan y mor tuag at amglawdd Owain; ond cyn ei gyrraedd, troes o'r neilltu. Aeth Cynan a Dafydd a'r rhai a oedd yn gwarchod yn erbyn hyn i frwydro gyda hwy, a lladdwyd llawer o wyr y brenin , y rhai a aeth yn eu blaenau yn osgoi marwolaeth. Clywodd Owain fod y brenin ei hun yn bygwth ei ol, tra'r oedd ef yn wynebu'r rhan fwyaf o fyddin y brenin, ac felly gadawodd ei amglawdd a chilio?n ol i le diogel' (Remfrey, 180-81).
Mae dwy gerdd gan Cynddelw Brydydd Mawr, a ysgrifennwyd yn fuan wedi'r frwydr yn rhoi tystiolaeth am y lleoliad. Mae'r cyntaf yn ei gosod `oddis llaw llys Bennardd? (dan lys Pennardd) a'r ail `rhag Pennardd? (ger gwrthglawdd Pennardd) (Gruffydd). Penardd yw'r enw Cymraeg am Hawarden, sydd yng nghwmwd Coleshill. Mae Gerallt Gymro yn ei Itinerarium Kambriae, a luniwyd tua 1191 yn ychwanegu manylion pellach:
Cyfieithiad: Mewn bwlch cul [hynod] goediog ger Coleshill (Thorpe, 189)
Gallai hyn gyfateb i `koed Pennardlaoc `(Hawarden Wood) a nodwyd yn fersiwn Peniarth 20 o Frut y Tywysogion(Jones).
Erys safle'r frwydr yn ansicr. Ceir tystiolaeth anghyson o ran lleoliad y goedwig lle y cudd ymosodwyd ar Harri II a?i filwyr gan feibion Owain, sef Cynan a Dafydd, yn ogystal ag o ran safle cadarnle Owain yn `Basingwek? (Dinas Basing).
Mae?n fwyaf tebygol i'r frwydr ddigwydd rhwng yr amddiffynfa yn Ninas Basing a Phenarlag (Hawarden) a safle yng nghyffiniau Ewlo (SJ 28 67), yw'r lle sy?n ffitio orau o ran y dystiolaeth sydd ar gael (Edwards).
CBHC, Ionawr 2017
Llyfryddiaeth
Border Archaeology, Coleshill (1157): Documentary and Historical Research Report (2009).
Edwards, J. G., `Henry II and the Fight at Coleshill: Some Further Reflections?, Welsh Historical Review, v.3 no. 3 (1967), 251-63.
Gough-Cooper, Henry (ed.) The Breviate Chronicle: Annales Cambriae, The B Text from London, National Archives, MS E164/1, pp. 2?26, online edition.
Jones, Thomas (trans.), Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes Peniarth MS. 20 Version (Cardiff, University of Wales Press, 1952).
Gruffydd, R. Geraint, `A Welsh poet falls at the battle of Coleshill, 1157: Cynddelw Brydydd Mawr's elegy for Bleddyn Farrd of Powys?, Flintshire Society Journal, 36 (2003), 52-58.
Remfry, Paul M. Annales Cambriae: A Translation of Harleian 3859: PRO E. 164/1: Cottonian Domitian, A1: Exeter Cathedral Library MS.3514 and MS Exchequer DB Neath, PRO E. 164/1 (Castle Studies Research, 2007).
Thorpe, Lewis (trans.), Gerald of Wales The Journey through Wales and The Description of Wales (Penguin, Harmondsworth, 1978).