NPRN403952
Cyfeirnod MapSN58SE
Cyfeirnod GridSN5935581846
Awdurdod Unedol (Lleol)Ceredigion
Hen SirCeredigion
CymunedAberystwyth
Math O SafleNEUADD BRESWYL
Cyfnod20fed Ganrif
Disgrifiad
Neuadd Pantycelyn oedd un o'r adeiladau cyntaf a adeiladwyd ar Gampws Penglais, a gafwyd gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ym 1929. Yr oedd cynllun pensaerniol yr holl gampws newydd i ddilyn cynllun Syr Percy Thomas, ond dim ond Pantycelyn a dau adeilad arall a gwblhawyd yn ol y cynllun hwn. Enwyd yr adeilad ar ol y bardd, emynwr ac adfywydd, William Williams, Pantycelyn, (1717-1791), a chrewyd i fod yn neuadd breswyl i fyfyrwyr gwryw. Adeiladwyd yn y dullwedd neogeorgiaidd mewn dau gam o 1948. Cwblhawyd y cam cyntaf ym 1951 a chostiodd £185,000; cwblhawyd yr ail gam ym Mis Hydref 1953. Yr oedd Pantycelyn neuadd breswyl Gymraeg ers 1974 ac wedi bod yn gartref i rai o enwogion gan gynnwys Tywysog Siarl pan oedd yn fyfyriwr ym 1969 ac yr hanesydd John Davies, fu yn warden Pantycelyn am 18 mlynedd, 1974-1992. Bygythwyd cau'r adeilad sawl tro yn y 2010au, a chaewyd ym Mis Medi 2015. Ar ol gwrthdystiadau gan fyfyrwyr, dechreuodd Prifysgol Aberystwyth adnewyddiad o £12m ar Neuadd Pantycelyn yn hwyr yn 2017.
Mae'r neuadd trillawr yn gynnwys dau blocyn siap H o 3-9-3 o rhaniadau, - yr un gogleddol yn ddeulawr a'r un deheuol yn drillawr - ar ddeutu bloc cilan canolig o saith rhaniadau. Mae'r adeilad wedi?i wynebu a cherrig creigiog Coedwig Dean. Mae ffenestri codi trwy'r adeilad, gan gynnwys ffenestri deugain golau sy?n goleuo prif ystafelloedd y bloc gogleddol. Uwchben, mae talcendoeau llechi a ffenestri dormer ar ol rhagfuriau mewn arddull syml. Mae'r prif fynediad ym mhen gogleddol y neuadd trwy gil bwa crwm gyda ffenestr reiddiol uwch ei ben, a ffenestri wythonglog ar ei ddeutu. Mae mynediad ychwanegol yn ffasad dwyreiniol y bloc canolig trwy architraf moldedig syml gyda ffenestr staer tal uwch ei ben, wedi?i adrannu gan groeslath. Mae blociau canolig a deheuol yn cynnwys ystafelloedd ar gyfer myfyrwyr i fwy ynddynt. Mae bloc gogleddol yn cynnwys ystafell gyffredinol h?n ac ystafell ffurfiol hefyd, y ddwy gyda chornisiau plastr a lleoedd tan wedi?u hadeiladu o gerrig, ac ystafell fwyta.
(Ffynhonnellau: Cadw Listed Buildings Database, Ref No 87568; Sion Morgan, `Aberystwyth's historic Pantycelyn hall of residence saved from closure?, Wales Online, 04.04.2014; `Aberystwyth Uni backs £12m for Pantycelyn halls revamp?, BBC News Online, 27.11.2017; `Aberystwyth's Pantycelyn Welsh halls reopening delayed?, BBC News Online, 13.09.2018; E. L. Ellis, The University College of Wales Aberystwyth 1872?1972 (Cardiff: University of Wales Press, 1972); Thomas Lloyd, Julian Orbach and Robert Scourfield, The Buildings of Wales: Carmarthenshire and Ceredigion (New Haven: Yale University Press, 2006), t. 48; John Davies, Fy Hanes I (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2014), pennod 5.)
A.N. Coward, CBHC, 13.02.2019