Mwynhewch uchafbwyntiau Coflein a ddewiswyd gan staff o bob rhan o'r sefydliad
Deled yr eira – archaeoleg y gaeaf
Mae eira’n cynnig cyfle arbennig i weld a chofnodi safleoedd yn nhirwedd Cymru. Mae’r gorchudd gwyn yn creu’r amodau perffaith ar gyfer cofnodi gwrthgloddiau, enwedig o’u cyfuno â haul isaf y gaeaf. Yn yr eira mae lliwiau’r dirwedd yn unffurf, felly gellir gweld gwrthgloddiau henebion cymhleth yn fwy eglur a manwl. Ar yr un pryd, gall eira sy’n lluwchio neu’n dadmer, neu farrug sy’n dadmer ar borfa wedi’i gwella, helpu i ddangos mân wahaniaethau yn y dopograffeg a all wneud i olion archaeolegol sefyll allan. Pur anaml y bydd yr amodau tywydd hyn yn para’n hir, felly mae’n hollbwysig mynd ati ar unwaith i dynnu lluniau o’r awyr. Detholiad o luniau o aeafau’r gorffennol a geir yma; gobeithiwn yn fawr y cawn gyfleoedd i wneud mwy o ddarganfyddiadau y gaeaf hwn.
Prev
Next
Menywod yn Ein Casgliadau
Mae’r rhan fwyaf o’r delweddau yn ein casgliadau’n ymwneud â henebion penodol yng Nghymru, er enghraifft, tai, safleoedd diwydiannol ac archaeolegol, capeli, cestyll. Cafodd yr henebion eu hadeiladu a’u defnyddio gan bobl, ond yn hanesyddol, mae ein harchif yn canolbwyntio ar gerrig, coed, brics, a dur treftadaeth adeiledig Cymru – ac nid yn gymaint ar y bobl.
Sut bynnag, fel y gwelwch, mae pobl (gan gynnwys menywod) yn cael eu pig i mewn weithiau! Cânt eu disgrifio yn aml yn y disgrifiadau catalog fel ‘ffigur’, er enghraifft ‘llun o [enw’r safle] gyda ffigur’, ac maen nhw fel rheol yn eilbeth i’r prif destun sef yr heneb neu adeilad.
Dyma’r menywod (a merched) rydw i wedi dod ar eu traws – ger eu bythynnod, wrth eu gwaith, yn mynd i’r capel; wedi’u portreadu mewn carreg, metel a phaentiadau, neu wedi’u cynrychioli gan ddillad. Nid yw’r un ohonynt wedi’i henwi (os ydych chi’n adnabod rhywun, rhowch wybod!), ond maen nhw yno, yn adlewyrchu eu rôl ganolog yn nhreftadaeth adeiledig Cymru.
Prev
Next
Elenydd: Diffeithwch Olaf
Mae Elenydd, a ddisgrifiwyd gan y naturiaethwr Iolo Williams fel ‘Diffeithwch Olaf Cymru’, yn anghysbell a gwyllt, ond ceir yma hefyd dystiolaeth o weithgarwch dynol o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw. Yn ogystal â rhostiroedd eang, coetiroedd trwchus, afonydd cyflym a llynnoedd niferus, mae bryngaerau, meini hirion, carneddau claddu, olion hen fwyngloddiau, ffermdai ac aneddiadau unig a gwag, na ellir cyrraedd llawer ohonynt ond ar droed, wedi’u gwasgaru ar hyd y mynyddoedd.
I ddarganfod mwy am y rhanbarth hynod ddiddorol hwn, cliciwch ar y cyswllt o dan bob ffotograff i weld y cofnod llawn a map yn dangos lleoliad y safle. Gallwch hefyd lawrlwytho ein eLyfr: The Archaeology of the Welsh Uplands.
Prev
Next
Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru
Cyfnod o newid mawr oedd yr ugeinfed ganrif yng Nghymru – gydag isadeiledd, technoleg ac arddulliau pensaernïol newydd yn gweddnewid trefluniau a thirweddau’r wlad. Mae llawer o’n casgliadau’n cofnodi’r newidiadau a datblygiadau arloesol hyn.
Prev
Next
Diwylliant Amrywiol Cymru
Yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg denwyd gweithwyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon i weithio yn niwydiannau haearn, copr, glo a llechi Cymru. Cafodd y rhwydwaith cludiant a ddatblygwyd i wasanaethu’r diwydiannau hyn – camlesi, rheilffyrdd, ffyrdd a phontydd – ei adeiladu gan lafurwyr lleol ac ymfudwyr, ac roedd cymunedau yng nghyffiniau porthladdoedd prysur Cymru yn cynnwys pobl o bedwar ban byd. Llifodd ffoaduriaid a faciwîs i Gymru yn ystod y ddau Ryfel Byd, a daeth yn gartref dros dro a pharhaol i bobl o Wlad Belg, Gwlad Pwyl, yr Eidal, Uganda, Vietnam a llawer gwlad arall. Mae ymfudwyr yn parhau i wneud eu cartrefi yng Nghymru heddiw. Adlewyrchir yr hanes cyffrous hwn yn y lluniau isod, y mae pob un ohonynt yn adrodd stori.