Nid oes gennych resi chwilio datblygedig. Ychwanegwch un trwy glicio ar y botwm '+ Ychwanegu Rhes'

Maes Moydog; Maes Madog Battlesite, Cefn Digoll, near Montgomery

Loading Map
NPRN403416
Cyfeirnod MapSJ20NE
Cyfeirnod GridSJ2649005790
Awdurdod Unedol (Lleol)Powys
Hen SirMontgomeryshire
CymunedForden
Math O SafleSAFLE BRWYDR
CyfnodCanoloesol
Disgrifiad
I oleuo ystyriaeth o'r Rhestr o Feysydd Brwydro Hanesyddol yng Nghymru, cynhaliwyd rhaglen gam wrth gam o archwilio brwydr Maes Moydog. Mae adroddiadau manwl o'r archwiliadau hyn ar gael ac yn cynnwys ymchwil ddogfennol a hanesyddol (Chapman), a gwaith maes heb fod yn ymyrryd a gwaith a oedd yn ymyrryd (Archaeoleg Cymru).

Roedd brwydr Maes Moydog ar 5ed Mawrth 1295 yn nodi diwedd y gwrthryfel mwyaf sylweddol yng Nghymru yn dilyn cwblhau concro Gwynedd gan Iorwerth I ddegawd ynghynt. Yma, trechwyd Madog ap Llywelyn, arweinydd y gwrthryfel yn y gogledd gan fyddin dan arweiniad Iarll Warwick.

Ceir sawl cyfeiriad at y frwydr mewn croniclau a blwyddnodion. Mae'r tri adroddiad cyfoes mwyaf defnyddiol i?w cael yng nghronicl Nicholas Trivet, un o'r Brodyr Duon a aned yng Ngwlad yr Haf (m. c. 1334), y gwaith di-enw sef analysis of Worcester a'r gwaith Eingl-Normanaidd Chronicle of Hagnaby Abbey, Lincolnshire. Mae'r Royal Pay Accounts a gyfansoddwyd gan glerc y brenin John Sandell sy?n cofnodi gwariant Iorwerth I yng ngaeaf 1294-5 hefyd yn rhoi gwybodaeth werthfawr (Chapman).

Bu lleoliad y frwydr yn destun dyfalu ers tro byd. Ymddengys yn fwyaf tebygol iddi ddigwydd ym Mhlwyf Castell Caereinion, Powys (o gwmpas SJ 1706 0800) dair milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar dir ym mherchnogaeth abaty Ystrad Marchell (Strata Marcella) (Edwards, 1931). Yma, mae'r enw lle `Moydog? wedi?i gadw yn enwau sawl fferm a th? hyd y dydd heddiw gan awgrymu fod y frwydr yn cymryd ei henw o'r ardal lle yr ymladdwyd hi , ac nad llygriad ar enw arweinydd y gwrthryfel a drechwyd yno ydyw. Cynhaliwyd arolwg gan ddefnyddio synhwyrydd metelau ( Metal detector) yn 2014 ar ran o'r ardal hon ac ni ddarganfuwyd ond ychydig eitemau, a dim a oedd yn cydoesi a'r frwydr (Archaeoleg Cymru).

CBHC, Ionawr 2017

Llyfryddiaeth
Archaeology Wales, 1295 Battle of Maes Moydog, Welshpool, Powys: Battlefield Survey (2012).
Chapman, A., Maes Moydog 5 March 1295: Documentary and Historical Research Report (2013).
Edwards, J. G., `The site of the battle of ?Meismeidoc??, English Historical Review 46 (1931), 262-5
Adnoddau
LawrlwythoMathFfynhonnellDisgrifiad
application/pdfAWP_309_03_02 - Archaeology Wales Project ArchivesFinal report on Maes Moydog battlefield, produced in July 2014. Report no. 1259. Part of the Welsh Battlefield Metal Detector Survey, carried out by Archaeology Wales, 2012-2014. Project code: 2041 - WBS/12/SUR.